Luke 2:48 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ phan welsant ef, ryveddy a wnaethant, a’i vam a a ddyvot wrthaw, Y map pam y gwneuthost val hyn a ni? Nycha, dy dat a minae gau ymovidio ath gaisiesam.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A phan welsant Ef, bu aruthr ganddynt; ac Wrtho Ei fam a ddywedodd, Fy mhlentyn, paham y gwnaethost fel hyn â ni? Wele, dy dad a myfi yn ofidus a edrychasom am Danat.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac wrth ei weled trawyd hwynt â syndod, a dywedodd ei fam wrtho, “Fy mhlentyn, paham y gwnaethost â ni fel hyn? Dyma dy dad a minnau mewn ing yn chwilio amdanat.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phan welsant ef, bu aruthr ganddynt. A'i fam a ddywedodd wrtho, Fy mab, paham y gwnaethost felly â ni? wele, dy dad a minnau yn ofidus a'th geisiasom di.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Cafodd ei rieni y fath sioc pan ddaethon nhw o hyd iddo, a dyma'i fam yn gofyn iddo, “Machgen i, pam rwyt ti wedi gwneud hyn i ni? Mae dy dad a fi wedi bod yn poeni'n ofnadwy ac yn chwilio ym mhobman amdanat ti.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pan welodd ei rieni ef, fe'u syfrdanwyd, ac meddai ei fam wrtho, "Fy mhlentyn, pam y gwnaethost hyn inni? Dyma dy dad a minnau yn llawn pryder wedi bod yn chwilio amdanat."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A phan welsant ef, hwy a darawyd â syndod. A dywedodd ei Fam wrtho, Fy mhlentyn, Paham y gwnaethost fel hyn a ni? Wele, dy Dâd a minau, yn ofidus iawn, fuom yn dy geisio di.