Luke 2:51 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno ydd aeth ef i wared gyd ac wynt, ac a ddaeth i Nazaret, ac a vu ’ostyngedic yðynt: A’i vam ef a gatwodd yr oll’airieu hynn yn hei chalon.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac aeth i wared gyda hwynt, a daeth i Natsareth, ac yr oedd yn ddarostyngedig iddynt; ac Ei fam a gadwai yr holl bethau hyn yn ei chalon.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac aeth i lawr gyda hwynt, a daeth i Nasareth, a bu ddarostyngedig iddynt. A’i fam a drysorai’r cwbl yn ei chalon.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a aeth i waered gyda hwynt, ac a ddaeth i Nasareth, ac a fu ostyngedig iddynt. A'i fam ef a gadwodd yr holl eiriau hyn yn ei chalon.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly aeth Iesu yn ôl i Nasareth gyda nhw a bu'n ufudd iddyn nhw. Roedd Mair yn cofio pob manylyn o beth ddigwyddodd, a beth gafodd ei ddweud.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna aeth ef i lawr gyda hwy yn l i Nasareth, a bu'n ufudd iddynt. Cadwodd ei fam y cyfan yn ddiogel yn ei chalon.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac efe a aeth i waered gyd â hwynt, ac a ddaeth i Nazareth, ac a fu ufydd iddynt. A'i fam ef a gadwodd yn ddyogel yr holl ddywediadau hyn yn ei chalon.