Luke 2:7 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ hi a escorawdd ar h ei map cyntaf‐ enit, ac y crynoawdd ef mewn cadachae, ac ei dodes ym presep, can nad oedd yddynt le yn y lletuy‐ cyffredin.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ac esgorodd ar ei Mab cyntaf-anedig, a rhwymodd Ef mewn cadachau, a dododd Ef mewn preseb gan nad oedd iddynt le yn y lletty.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
a hi esgorodd ar ei mab cyntafanedig, a rhwymynnodd ef, ai roi i orwedd mewn preseb, am nad oedd iddynt le yn y llety.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A hi a esgorodd ar ei mab cyntaf‐anedig, ac a'i rhwymodd ef mewn cadachau, ac a'i dododd ef yn y preseb; am nad oedd iddynt le yn y llety.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
a dyna lle cafodd ei phlentyn cyntaf ei eni — bachgen bach. Dyma hi'n lapio cadachau geni yn ofalus amdano, a'i osod i orwedd mewn cafn ar gyfer bwydo anifeiliaid. Doedd dim llety iddyn nhw aros ynddo.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
ac esgorodd ar ei mab cyntafanedig; a rhwymodd ef mewn dillad baban a'i osod mewn preseb, am nad oedd lle iddynt yn y gwesty.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A hi a esgorodd ar ei mab cyntaf‐anedig, ac a'i rhwymodd mewn dillad magu, ac a'i gosododd i lawr mewn preseb, am nad oedd iddynt le yn yr Orphwysfan.