Luke 2:8 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac ydd oedd yn y wlat hono vugelydd, yn aros yn-y‐maesydd, ac yn cadw gwylfaē ’rhyd y nos o bleit ei cadw devaid.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac yr oedd bugeiliaid yn y wlad honno, yn aros yn y maes, ac yn gwylied, liw nos, dros eu praidd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A bugeiliaid oedd yn y fro honno yn aros allan ac yn gwarchod eu praidd drwy’r nos.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac yr oedd yn y wlad honno fugeiliaid yn aros yn y maes, ac yn gwylied eu praidd liw nos.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yn ardal Bethlehem roedd bugeiliaid allan drwy'r nos yn yr awyr agored yn gofalu am eu defaid.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yn yr un ardal yr oedd bugeiliaid allan yn y wlad yn gwarchod eu praidd liw nos.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac yr oedd yn y wlâd hono fugeiliaid yn trigo allan yn y maes, yn cadw gwyliadwriaeth drwy y nos ar eu praidd.