Luke 2:9 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ nycha, Angel yr Arglwydd a ddaeth arnynt a’ gogoniant yr Arglwydd a dywynawdd o ei h’amgylch, ac ofny yn ddirvawr a orugant.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac angel yr Arglwydd a safodd gerllaw iddynt, a gogoniant yr Arglwydd a ddisgleiriodd o’u hamgylch; ac ofnasant ag ofn mawr.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac angel i’r Arglwydd a safodd ger eu llaw, a gogoniant yr Arglwydd a ddisgleiriodd o’u hamgylch, ac ofnasant ag ofn mawr.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac wele, angel yr Arglwydd a safodd gerllaw iddynt, a gogoniant yr Arglwydd a ddisgleiriodd o'u hamgylch: ac ofni yn ddirfawr a wnaethant.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yn sydyn dyma nhw'n gweld un o angylion yr Arglwydd, ac roedd ysblander yr Arglwydd fel golau llachar o'u cwmpas nhw. Roedden nhw wedi dychryn am eu bywydau.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A safodd angel yr Arglwydd yn eu hymyl a disgleiriodd gogoniant yr Arglwydd o'u hamgylch; a daeth arswyd arnynt.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac Angel yr Arglwydd a safodd yn sydyn gerllaw, a Gogoniant yr Arglwydd a ddysgleiriodd o amgylch iddynt: ac ofnasant gyd âg ofn mawr.