Luke 20:10 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac ar ryw bryd, yd anvones ef was at y tir‐ðiwylliawdwyr val y rhoddent y‐ dd aw o ffrwyth y winllan, eithyr y tir‐ddiwyllyawdwyr y bayddent ef, ac eu d anvonent ymaith yn wac.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac yn yr amser, danfonodd at y llafurwyr was fel y rhoddent iddo o ffrwyth y winllan; a’r llafurwyr wedi ei guro, a’i danfonasant ef ymaith yn wag- law.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A phan oedd hi’n bryd anfonodd was at y llafurwyr, er mwyn iddynt roddi iddo o ffrwyth y winllan; a’i anfon ymaith a wnaeth y llafurwyr yn waglaw, ar ôl ei guro.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac mewn amser efe a anfonodd was at y llafurwyr, fel y rhoddent iddo o ffrwyth y winllan: eithr y llafurwyr a'i curasant ef, ac a'i hanfonasant ymaith yn waglaw.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan oedd hi'n amser casglu'r grawnwin anfonodd un o'i weision i nôl y siâr roedd y tenantiaid i fod i'w rhoi iddo. Ond dyma'r tenantiaid yn curo'r gwas a'i anfon i ffwrdd heb ddim.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pan ddaeth yn amser, anfonodd was at y tenantiaid iddynt roi iddo gyfran o ffrwyth y winllan. Ond ei guro a wnaeth y tenantiaid, a'i yrru i ffwrdd yn waglaw.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac ar adeg briodol efe a anfonodd was at y llafurwyr, fel y rhoddant iddo o ffrwyth y winllan. Ond y llafurwyr a'i curasant ef, ac a'i danfonasant allan ymaith yn wag.