Luke 20:16 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ef a ddaw ac a destryw y tir‐ddiwilliawdwyr hyn, ac a ddyd ey winllan y eraill. A’ phan glywsant hyn, y dywedesont Na bo hyny.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Daw a difetha y llafurwyr hyn, a rhydd y winllan i eraill. Ac wedi clywed o honynt, dywedasant, Na fydded.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Fe ddaw, ac fe ddifetha’r llafurwyr hyn, a rhydd y winllan i eraill.” Pan glywsant, dywedasant, “Na ato Duw.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Efe a ddaw, ac a ddifetha'r llafurwyr hyn, ac a rydd ei winllan i eraill. A phan glywsant hyn, hwy a ddywedasant, Na ato Duw.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bydd yn dod ac yn lladd y tenantiaid hynny ac yn rhoi'r winllan i bobl eraill.” Pan glywodd y bobl y stori yma, eu hymateb oedd, “Na! Byth!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Fe ddaw ac fe ddifetha'r tenantiaid hynny, ac fe rydd y winllan i eraill." Pan glywsant hyn meddent, "Na ato Duw!"
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Efe a ddaw ac a ddyfetha y llafurwyr hyn, ac a rydd ei winllan i eraill. Eithr pan glywsant hyn, hwy a ddywedasant, Na fydded hyn.