Luke 20:17 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac ef a edrychawdd arnynt, ac a ddyvot, Beth ynteu yw hyn a esceivenwyt, Y maen y wrthodent yr adailwyr, hwnw a wnaethpwyt yn ben ir congyl vaen?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac Efe, gan edrych arnynt, a ddywedodd, Pa beth, gan hyny, yw hyn a ysgrifenwyd, “Y maen a wrthododd yr adeiladwyr, Hwn a aeth yn ben i’r gongl.”
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Edrychodd yntau arnynt, a dywedodd, “Beth, ynteu, yw hyn sy’n ysgrifenedig? Y maen a wrthododd yr adeiladwyr, hwn a ddaeth yn ben y gongl.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a edrychodd arnynt, ac a ddywedodd, Beth gan hynny yw hyn a ysgrifennwyd, Y maen a wrthododd yr adeiladwyr, hwn a wnaethpwyd yn ben y gongl?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Edrychodd Iesu i fyw eu llygaid, ac meddai, “Felly beth ydy ystyr y geiriau yma o'r ysgrifau sanctaidd: ‘Mae'r garreg wrthododd yr adeiladwyr wedi cael ei gwneud yn garreg sylfaen’?
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Edrychodd ef arnynt a dweud, "Beth felly yw ystyr yr Ysgrythur hon: 'Y maen a wrthododd yr adeiladwyr, hwn a ddaeth yn faen y gongl'?
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac efe a edrychodd arnynt, ac a ddywedodd, Beth gan hyny yw hyn sydd wedi ei ysgrifenu: Maen a wrthododd yr Adeiladwyr:— Hwn a wnaed yn ben congl?