Luke 20:19 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno yr Archoffeiriait a’r Gwyr‐llen yn yr awr hono a geysynt ddodi dwylo arnaw: (anyd bot arnyn ofn y popul) can ys gwybuont may yn y erbyn hwy y dywedesei ef y parabol hwn.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ac ofnasant y bobl; canys gwyddent mai yn eu herbyn hwy y dywedodd y ddammeg hon:
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A cheisiodd yr ysgrifenyddion a’r archoffeiriaid roi eu dwylo arno yr awr honno; ac ofnasant y bobl; canys deallasant mai amdanynt hwy y dywedasai’r ddameg hon.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r archoffeiriaid a'r ysgrifenyddion a geisiasant roddi dwylo arno yr awr honno; ac yr oedd arnynt ofn y bobl: canys gwybuant mai yn eu herbyn hwynt y dywedasai efe y ddameg hon.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd yr arbenigwyr yn y Gyfraith a'r prif offeiriaid yn gwybod yn iawn ei fod yn sôn amdanyn nhw yn y stori. Roedden nhw eisiau gafael ynddo yn y fan a'r lle, ond roedd arnyn nhw ofn y bobl.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ceisiodd yr ysgrifenyddion a'r prif offeiriaid osod dwylo arno y pryd hwnnw, ond yr oedd arnynt ofn y bobl, oherwydd gwyddent mai yn eu herbyn hwy y dywedodd y ddameg hon.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A'r Ysgrifenyddion a'r Arch‐offeiriaid a geisiasant osod eu dwylaw arno yr awr hono; a hwy a ofnasant y bobl: canys gwybuant mae yn eu herbyn hwy y dywedodd efe y ddammeg hon.