Luke 20:2 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
ac a lafaresont wrthaw, gan ddywedyt, Dyweit i ni wrth pa awturtot y gwnai di y pethe hyn, n ai pwy a roes i ti yr awturtat hyn?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
a llefarasant, gan ddywedyd Wrtho, Dywaid wrthym trwy ba awdurdod yr wyt yn gwneuthur y pethau hyn; neu pwy yw’r hwn a roddodd i Ti yr awdurdod hon?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
a dywedasant wrtho, “Dywed i ni trwy ba awdurdod y gwnei di’r pethau hyn, neu pwy yw’r un a roes i ti’r awdurdod hwn.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A llefaru wrtho, gan ddywedyd, Dywed i ni, Trwy ba awdurdod yr wyt yn gwneuthur y pethau hyn? neu pwy yw'r hwn a roddodd i ti yr awdurdod hon?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
a gofyn iddo, “Pa hawl sydd gen ti i wneud beth wnest ti? Pwy yn union roddodd yr awdurdod i ti?”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
ac meddent wrtho, "Dywed wrthym trwy ba awdurdod yr wyt ti'n gwneud y pethau hyn, neu pwy roddodd i ti'r awdurdod hwn."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
ac a lefarasant gan ddywedyd wrtho, Dywed i ni trwy ba fath awdurdod yr wyt yn gwneuthur y pethau hyn? Neu pwy a roddodd i ti yr awdurdod hon?