Luke 20:21 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac y a ’ofynesont y‐ddaw, gan ddywedyt, Athro, gwyddam y dywedy di ac y dyscy yr vnion, ac na dd erbyny vvy neb ond val ygylydd, ’eithyr dyscu yddwyt i bavvp ffordd D d uw yn‐ gwirioned.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
a gofynasant Iddo, gan ddywedyd, Athraw, gwyddom mai uniawn y dywedi ac y dysgi, ac na dderbyni wyneb, eithr mewn gwirionedd y dysgi ffordd Duw.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A gofynasant iddo, “Athro, gwyddom mai cywir y lleferi ac y dysgi, ac nad wyt yn derbyn wyneb, ond dy fod yn dysgu ffordd Duw mewn didwylledd.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A hwy a ofynasant iddo ef, gan ddywedyd, Athro, ni a wyddom mai uniawn yr ydwyt ti yn dywedyd ac yn dysgu, ac nad wyt yn derbyn wyneb, eithr yn dysgu ffordd Duw mewn gwirionedd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly dyma'r rhai gafodd eu hanfon i geisio ei dwyllo yn gofyn iddo, “Athro, dŷn ni'n gwybod fod yr hyn rwyt ti'n ei ddweud ac yn ei ddysgu yn wir. Dwyt ti ddim yn dangos ffafriaeth, ac rwyt ti'n dysgu ffordd Duw ac yn glynu wrth yr hyn sy'n wir.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gofynasant iddo, "Athro, gwyddom fod dy eiriau a'th ddysgeidiaeth yn gywir; yr wyt yn ddi-dderbyn-wyneb, ac yn dysgu ffordd Duw yn gwbl ddiffuant.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A hwy a ofynasant iddo, gan ddywedyd, Athraw, ni a wyddom dy fod yn dywedyd ac yn dysgu yn uniawn, ac nad wyt yn derbyn wyneb, ond yn dysgu ffordd Duw yn wirioneddol.