Luke 20:24 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
dangoswch i mi geiniawc. Pwy biae ’r ddelw ar graipht ’sy arnei. Atep o hanynt a ’dywedyt, Caisar.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Delw ac argraph pwy sydd ganddi? A hwy a ddywedasant, Yr eiddo Cesar.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
“Dangoswch imi swllt; delw ac argraff pwy sydd arno?” Dywedasant hwythau “Cesar.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Dangoswch i mi geiniog. Llun ac argraff pwy sydd arni? A hwy a atebasant ac a ddywedasant, Yr eiddo Cesar.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Dewch â darn arian yma,” meddai wrthyn nhw. “Llun pwy sydd arno? Am bwy mae'r arysgrif yma'n sôn?” “Cesar,” medden nhw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Dangoswch imi ddarn arian. Llun ac arysgrif pwy sydd arno?" "Cesar," meddent hwy.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Dangoswch i mi ddenarion. Eiddo pwy yw y ddelw a'r argraff? A hwy gan ateb a ddywedasant, Eiddo Cesar.