Luke 20:26 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac velly ny allesont veio ar y eiriae ef geyr bron y popul: any d ryveð vu ganthynt y atep ef, a’ thewy a son a wnaethāt.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac ni allasant gael gafael yn Ei ymadrodd, ger bron y bobl; a chan ryfeddu wrth Ei atteb tawsant.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac ni allasant gymryd gafael yn ei air yng ngŵydd y bobl, a chan ryfeddu at ei ateb tawsant â sôn.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac ni allasant feio ar ei eiriau ef gerbron y bobl: a chan ryfeddu wrth ei ateb ef, hwy a dawsant â sôn.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly roedden nhw wedi methu ei gael i ddweud unrhyw beth o'i le o flaen y bobl. Roedd ei ateb wedi eu syfrdanu'n llwyr — doedden nhw ddim yn gallu dweud dim.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr oeddent wedi methu ei ddal ar air o flaen y bobl, a chan ryfeddu at ei ateb aethant yn fud.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac nis gallasant gymmeryd gafael ar ei air ef gerbron y bobl, a chan ryfeddu wrth ei ateb ef, hwy a dawsant.