Luke 20:27 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno y daeth ataw ’r ei o’r Zadduceit (yr ei a wadant vot cyuodedigaeth) ac a ’ovynent iðaw,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac wedi dyfod Atto, rhai o’r Tsadwceaid, y rhai a ddywedant nad oes adgyfodiad,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A daeth ato rai o’r Sadwceaid, sy’n gwadu nad oes atgyfodiad, a gofynasant iddo,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A rhai o'r Sadwceaid (y rhai sydd yn gwadu nad oes atgyfodiad,) a ddaethant ato ef, ac a ofynasant iddo,
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma rai o'r Sadwceaid yn dod i ofyn cwestiwn i Iesu. (Nhw ydy'r arweinwyr Iddewig sy'n dweud fod pobl ddim yn mynd i ddod yn ôl yn fyw ar ôl marw.)
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Daeth ato rai o'r Sadwceaid, y bobl sy'n dal nad oes dim atgyfodiad. Gofynasant iddo,
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A daeth ato rai o'r Saduceaid, y rhai sydd yn dywedyd nad oes Adgyfodiad,