Luke 20:29 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac yr oedd saith broder, a’r cyntaf a gymerth ’wraic ac a vu varw yn ddi blant.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Saith brawd, ynte, oedd; ac y cyntaf, wedi cymmeryd gwraig,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Yr oedd, ynteu, saith o frodyr; a’r cyntaf a gymerth wraig, a bu farw heb blant;
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yr oedd gan hynny saith o frodyr: a'r cyntaf a gymerodd wraig, ac a fu farw yn ddi‐blant.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Nawr, roedd saith brawd. Priododd yr hynaf, a buodd farw heb gael plant.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yn awr, yr oedd saith o frodyr. Cymerodd y cyntaf wraig, a bu farw'n ddi-blant.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yr oedd, ynte, saith o frodyr: a'r cyntaf a gymmerodd wraig, ac a fu farw yn ddi‐blentyn.