Luke 20:33 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can hyny yn y cyuodedigaeth, gwraic i bwy vn o hanynt vydd hi? can ys ir saith y bu hi yn wreic.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Yn yr adgyfodiad, gan hyny, i ba un o honynt y bydd hi yn wraig, canys y saith a’i cawsant hi yn wraig?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Y wraig, ynteu, gwraig i ba un ohonynt fydd hi yn yr atgyfodiad? canys y saith a’i cafodd hi’n wraig.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yn yr atgyfodiad gan hynny, gwraig i bwy un ohonynt yw hi? canys y saith a'i cawsant hi yn wraig.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly dyma'n cwestiwn ni: ‘Pan fydd yr atgyfodiad yn digwydd, gwraig pwy fydd hi?’ Roedd hi wedi bod yn wraig i'r saith ohonyn nhw!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Beth am y wraig felly? Yn yr atgyfodiad, gwraig prun ohonynt fydd hi? Oherwydd cafodd y saith hi'n wraig."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yn yr Adgyfodiad gan hyny, gwraig i bwy un o honynt yw hi? Canys y saith a'i cawsant hi yn wraig.