Luke 20:35 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Any d yr ei a deilyngir y veddy ar y byd hwnw, a ’r cyuodiat o veirw, ny wreicaant, ac ny wrhant.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ond y rhai a gyfrifir yn deilwng i gael y byd hwnw a’r adgyfodiad o feirw, nid ydynt nac yn priodi nac eu rhoddi i’w priodi;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
ond y rhai a gyfrifir yn deilwng i gael yr oes a ddaw a’r atgyfodiad o feirw, ni phriodant ac nis priodir;
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eithr y rhai a gyfrifir yn deilwng i gael y byd hwnnw, a'r atgyfodiad oddi wrth y meirw, nid ydynt nac yn gwreica, nac yn gwra:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond yn yr oes sydd i ddod, fydd pobl ddim yn priodi — sef y bobl hynny sy'n cael eu cyfri'n deilwng i fod yn rhan ohoni ac wedi codi yn ôl yn fyw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
ond y rhai a gafwyd yn deilwng i gyrraedd y byd hwnnw a'r atgyfodiad oddi wrth y meirw, ni phriodant ac ni phriodir hwy.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
ond y rhai a gyfrifir yn deilwng i gyrhaedd nod y byd hwnw, a'r Adgyfodiad o feirw, nid ydynt yn priodi nac yn rhoddi i briodas: