Luke 20:36 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can na allant varw mwy ach, o bleit eu bot yn gymetrol a’r Angelon, ac ynt yn Veibion Duw, ac wy ntæ yn blant y cyuodedigaeth.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
canys hyd yn oed marw mwy nis gallant, canys cyd-stad â’r angylion ydynt, a meibion Duw ydynt, gan fod yn feibion yr adgyfodiad.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
canys ni allant farw mwy, oblegid cydradd â’r angylion ydynt, ac y maent yn blant Duw am eu bod yn blant yr atgyfodiad.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys ni allant farw mwy: oblegid cyd‐stad ydynt â'r angylion: a phlant Duw ydynt, gan eu bod yn blant yr atgyfodiad.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A fyddan nhw ddim yn marw eto. Byddan nhw yr un fath â'r angylion yn hynny o beth. Maen nhw'n blant Duw wedi eu codi yn ôl i fywyd newydd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ni allant farw mwyach, oherwydd y maent fel angylion. Plant Duw ydynt, am eu bod yn blant yr atgyfodiad.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
canys chwaith nid ydynt yn gallu marw mwy; canys cydradd âg angelion ydynt, ac y maent yn Feibion i Dduw, gan eu bod yn Feibion yr Adgyfodiad.