Luke 20:37 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ bod ir meirw ad gyuodi, ’sef Moysen ei rac d d angoses yn y dyrys llwyn, pan ddyvot ef, Mai yr Arglwydd yvv y Duw Abraham, a’r Duw Isaac, a’r Duw Iaco.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ond y cyfodir y meirw, Mosheh hefyd a hyspysodd yn “Y Berth,” pan eilw Iehofah “Duw Abraham, a Duw Itsaac, a Duw Iacob;”
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ond bod y meirw yn cyfodi, Moses hefyd a’i hysbysodd, yn hanes y Berth, pan yw’n sôn am yr Arglwydd yn Dduw Abraham a Duw Isaac a Duw Iacob.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac y cyfyd y meirw, Moses hefyd a hysbysodd wrth y berth, pan yw ef yn galw yr Arglwydd yn Dduw Abraham, ac yn Dduw Isaac, ac yn Dduw Jacob.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A bydd y meirw'n dod yn ôl yn fyw! Mae hyd yn oed Moses yn dangos fod hynny'n wir! Yn yr hanes am y berth yn llosgi mae'n dweud mai'r Arglwydd Dduw ydy ‘Duw Abraham, Duw Isaac a Duw Jacob’.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond bod y meirw yn codi, y mae Moses yntau wedi dangos hynny yn hanes y Berth, pan ddywed, 'Arglwydd Dduw Abraham a Duw Isaac a Duw Jacob'.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A bod y meirw yn cael eu cyfodi, hyd y nod Moses a awgryma yn yr adran ar y Berth, pan y mae yn galw yr Arglwydd, Duw Abraham, a Duw Isaac, a Duw Jacob.