Luke 20:46 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ymogelwch rac y Gwyr‐llen, yr ei a ewyllysiant vyned mewn dillat llaision, ac a garant gael cyfarch gwell yddyn yn y marchanatoedd, a’r eisteddvae vchaf yn y Synagogae, a’r lleoedd pennaf yn yn y gwleddoedd:
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Cymmerwch ofal rhag yr ysgrifenyddion, y rhai a ewyllysiant rodio mewn gwisgoedd llaesion, ac a garant gyfarchiadau yn y marchnadoedd, a’r prif-gadeiriau yn y sunagogau,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
“Ymogelwch rhag yr ysgrifenyddion, sy’n chwenychu rhodio mewn gwisgoedd llaes ac yn caru cyfarchiadau yn y marchnadoedd a’r prif gadeiriau yn y synagogau a’r prif seddau yn y gwleddoedd;
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ymogelwch rhag yr ysgrifenyddion, y rhai a ewyllysiant rodio mewn dillad llaesion, ac a garant gyfarchiadau yn y marchnadoedd, a'r prif gadeiriau yn y synagogau, a'r prif eisteddleoedd yn y gwleddoedd;
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Gwyliwch yr arbenigwyr yn y Gyfraith. Maen nhw wrth eu bodd yn cerdded o gwmpas yn swancio yn eu gwisgoedd swyddogol, ac yn hoffi cael pawb yn eu cyfarch ac yn talu sylw iddyn nhw yn sgwâr y farchnad. Mae'n rhaid iddyn nhw gael y seddi gorau yn y synagogau, ac eistedd ar y bwrdd uchaf mewn gwleddoedd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Gochelwch rhag yr ysgrifenyddion sy'n hoffi rhodianna mewn gwisgoedd llaes, sy'n caru cael cyfarchiadau yn y marchnadoedd, a'r prif gadeiriau yn y synagogau, a'r seddau anrhydedd mewn gwleddoedd,
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ymogelwch rhag yr Ysgrifenyddion, y rhai ydynt awyddus i rodio mewn llaes‐wisgoedd, ac yn hoffi cyfarchiadau yn y marchnad‐leoedd; a'r brif‐gadair yn y Synagogau, a'r prif‐eistedd‐leoedd yn y Swperau;