Luke 20:5 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ hwy a resym e sōt ynthyn y hun ain, gā ðywedyt, A’s dywedwn mai or nef, ef a ðywait, Paam gan hyny na chredech y‐ddaw?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A hwy a ymresymmasant â’u gilydd gan ddywedyd, Os dywedwn, “O’r nef,” dywaid Efe, Paham na chredasoch ef;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ymresymasant hwythau â’i gilydd, gan ddywedyd, “Os dywedwn, ‘O’r nef’, fe ddywed yntau, ‘Paham nas credasoch?’
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eithr hwy a ymresymasant yn eu plith eu hunain, gan ddywedyd, Os dywedwn, O'r nef; efe a ddywed, Paham gan hynny na chredech ef?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Wrth drafod y peth gyda'i gilydd, dyma nhw'n dweud, “Os atebwn ni ‘Ie’, bydd yn gofyn, ‘Pam doeddech chi ddim yn ei gredu?’
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dadleusant 'i gilydd gan ddweud, "Os dywedwn, 'o'r nef', fe ddywed, 'Pam na chredasoch ef?'
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A hwy a ymresymasant wrthynt eu hunain, gan ddywedyd, Os dywedwn, O'r Nef, efe a ddywed, Paham na chredasoch iddo?