Luke 20:9 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno y dechreawdd ef ddywedyt wrth y plwyf y parabol hyn, Gwr oedd a blannei winllan, ac y llocawdd hi y dir‐ðiwylliawdwyr: ac aeth i wlat dieithr, dros amser mawr.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A dechreuodd ddywedyd wrth y bobl y ddammeg hon, Dyn a blannodd winllan, a gosododd hi i lafurwyr, a bu mewn gwlad ddieithr am amser maith.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A dechreuodd ddywedyd y ddameg hon wrth y bobl. “ Plannodd dyn winllan, a gosododd hi i lafurwyr, ac aeth oddi cartref dros gryn amser.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a ddechreuodd ddywedyd y ddameg hon wrth y bobl; Rhyw ŵr a blannodd winllan, ac a'i gosododd i lafurwyr, ac a aeth oddi cartref dros dalm o amser.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Aeth yn ei flaen i ddweud y stori yma wrth y bobl: “Roedd dyn wedi plannu gwinllan. Gosododd y winllan ar rent i rhyw ffermwyr cyn mynd i ffwrdd am amser hir.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dechreuodd ddweud y ddameg hon wrth y bobl: "Fe blannodd rhywun winllan, ac wedi iddo ei gosod hi i denantiaid, aeth oddi cartref am amser hir.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac efe a ddechreuodd ddywedyd wrth y bobl y ddammeg hon: Gwr a blanodd winllan, ac a'i rhoddodd allan i lafurwyr, ac a aeth ymaith o'i wlad ei hun am amser hir.