Luke 21:1 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
AC val ydd oedd ef yn edrych, y gwelas ef yr ei goludawc yn bwrw ei rhoddion ir tresorfa.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A chan edrych i fynu, gwelai y rhai yn bwrw eu rhoddion i’r drysorfa, a hwy yn oludog;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A chododd ei lygaid, a gwelodd y cyfoethogion, a oedd yn cyfrannu eu rhoddion i’r drysorfa.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac wedi iddo edrych i fyny, efe a ganfu y rhai goludog yn bwrw eu rhoddion i'r drysorfa.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan oedd yn y deml, sylwodd Iesu ar y bobl gyfoethog yn rhoi arian yn y blychau casglu at drysorfa'r deml.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Cododd ei lygaid a gweld pobl gyfoethog yn rhoi eu rhoddion i mewn yng nghist y drysorfa.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac efe a edrychodd i fyny, ac a welodd y rhai goludog yn bwrw eu rhoddion i'r Drysorfa.