Luke 21:11 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
a’ dayar‐grynfaë mowrion vyddant yn amrafael leodd, a’ newyn, a haint y cornwyt, a’ dychrynedigaethae, a signedd mawrion vyddant o’r nef.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
a daeargrynfaau mawrion, ac mewn rhai lleoedd newyn a heintiau a fyddant, a phethau ofnadwy ac arwyddion mawrion o’r nef a fyddant.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
bydd daeargrynfâu mawrion a phlâu a newynau mewn amryw leoedd, bydd dychrynfeydd ac arwyddion mawrion o’r nef.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A daeargrynfâu mawrion a fyddant yn amryw leoedd, a newyn, a heintiau; a phethau ofnadwy, ac arwyddion mawrion a fydd o'r nef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bydd daeargrynfeydd mawr, a newyn a heintiau mewn gwahanol leoedd, a digwyddiadau dychrynllyd eraill ac arwyddion o'r nefoedd yn rhybuddio pobl.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Bydd daeargrynfu dirfawr, a newyn a phlu mewn mannau. Bydd argoelion arswydus ac arwyddion enfawr o'r nef.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
a bydd hefyd ddaear‐grynfäau mawrion, ac mewn manau newynau a heintiau; ac ymddangosiadau echrydus, ac hefyd arwyddion mawrion a fydd o'r Nef.