Luke 21:12 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Eithyr cyn na hyn oll, y dodant ei dwylo arnoch, ac ich erlynant, gan ych roddi ir Synagogae, ac i garcharae, a’ch dwyn geyr bron Brenhinedd, a’ llywyawdwyr o bleit vy Enw i.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A chyn yr holl bethau hyn rhoddant eu dwylaw arnoch, ac y’ ch erlidiant, gan eich traddodi i’r sunagogau ac i garcharau, gan eich dwyn ger bron brenhinoedd a rhaglawiaid o achos Fy enw.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ond cyn y pethau hyn oll rhoddant eu dwylo arnoch, ac erlidiant chwi, gan eich traddodi i’r synagogau ac i garcharau, a’ch llusgo gerbron brenhinoedd a rhaglawiaid o achos fy enw i;
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eithr o flaen hyn oll, hwy a roddant eu dwylo arnoch, ac a'ch erlidiant, gan eich traddodi i'r synagogau, ac i garcharau, wedi eich dwyn gerbron brenhinoedd a llywodraethwyr o achos fy enw i.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Ond cyn i hyn i gyd ddigwydd, byddwch chi'n cael eich erlid a'ch cam-drin. Cewch eich llusgo o flaen y synagogau a'ch rhoi yn y carchar. Cewch eich cyhuddo o fod yn ddilynwyr i mi o flaen brenhinoedd a llywodraethwyr.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond cyn hyn oll byddant yn gosod dwylo arnoch ac yn eich erlid. Fe'ch traddodir i'r synagogau ac i garchar, fe'ch dygir gerbron brenhinoedd a llywodraethwyr o achos fy enw i;
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Eithr o flaen hyn oll, hwy a roddant arnoch eu dwylaw, ac a'ch erlidiant, ac a'ch traddodant i'r Synagogau a charcharau, wedi eich arwain ymaith o flaen Breninoedd a Llywodraethwyr, er mwyn fy enw i.