Luke 21:16 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ys bradychir chwi y can eich rieni, a’ chan eich broder, a’ ch cydgenedl a ch cereint, a’r ei o hanoch a ront y varwolaeth.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A thraddodir chwi hyd yn oed gan rieni a brodyr a cheraint a chyfeillion; a marwolaeth a barant i rai o honoch.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Bradychir chwi gan rieni a brodyr a cheraint a chyfeillion, a rhoddant rai ohonoch i farwolaeth,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A chwi a fradychir, ie, gan rieni, a brodyr, a cheraint, a chyfeillion; ac i rai ohonoch y parant farwolaeth.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Byddwch yn cael eich bradychu gan eich rhieni, eich brodyr a'ch chwiorydd, eich perthnasau eraill a'ch ffrindiau. Bydd rhai ohonoch chi yn cael eich lladd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Fe'ch bradychir gan eich rhieni a'ch ceraint a'ch perthnasau a'ch cyfeillion, a pharant ladd rhai ohonoch.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A chwi a draddodir i fyny hyd y nôd gan rieni, a brodyr, a pherthynasau, a chyfeillion; a hwy a roddant rai o honoch i farwolaeth.