Luke 21:23 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ gwae yr ei beichiogion, a’r ei yn rhoi‐bronnae yn y dyddiae hyny: can ys‐bydd cyf ing dra mawr yn y tir hvvn, a’ llid arucha y bopul hyn.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Gwae y beichiogion a’r rhai yn rhoi bronnau yn y dyddiau hyny, canys bydd angen mawr yn y tir, a digofaint ar y bobl hyn;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Gwae’r rhai beichiog a’r rhai a ro’r fron yn y dyddiau hynny! Canys bydd cyni mawr ar y wlad, a digofaint ar y bobl hyn;
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eithr gwae'r rhai beichiogion, a'r rhai yn rhoi bronnau, yn y dyddiau hynny! canys bydd angen mawr yn y tir, a digofaint ar y bobl hyn.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mor ofnadwy fydd hi ar wragedd beichiog a mamau sy'n magu plant bach bryd hynny! Bydd trybini mawr yn y tir, a bydd digofaint Duw ar y genedl.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gwae'r gwragedd beichiog a'r rhai sy'n rhoi'r fron yn y dyddiau hynny! Daw cyfyngder dirfawr ar y wlad, a digofaint ar y bobl hon.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Gwae y rhai beichiogion, a'r rhai yn rhoi bronau yn y dyddiau hyny! Canys bydd cyfyngder mawr ar y ddaear, a digofaint ar y bobl hyn.