Luke 21:24 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac wy a gwympant ar vin y cleðyf, ac eu tywysir yn gaith ion ir oll genetloedd, a’ Caerusalem a vysengir dan draed y gan y Cenetloeð, y n y chyflawner amser e y Cenetloeð.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
a syrthiant trwy fin cleddyf, a chaeth-gludir hwynt at yr holl genhedloedd, ac Ierwshalem fydd yn cael ei sathru gan genhedloedd, hyd oni chyflawner amseroedd y cenhedloedd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
a syrthiant trwy fin cleddyf, a chaethgludir hwynt i’r holl genhedloedd, a bydd Caersalem yn fathredig gan genhedloedd, hyd oni chyflawner amserau’r cenhedloedd.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A hwy a syrthiant trwy fin y cleddyf, a chaethgludir hwynt at bob cenhedlaeth: a Jerwsalem a fydd wedi ei mathru gan y Cenhedloedd, hyd oni chyflawner amser y Cenhedloedd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Byddan nhw'n cael eu lladd gan y cleddyf neu'n cael eu symud i wledydd eraill yn garcharorion. Bydd pobl o genhedloedd eraill yn concro Jerwsalem a'i sathru dan draed hyd nes i amser y cenhedloedd hynny ddod i ben.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Byddant yn cwympo dan fin y cleddyf, ac fe'u dygir yn garcharorion i'r holl genhedloedd. Caiff Jerwsalem ei mathru dan draed y Cenhedloedd nes cyflawni eu hamserau hwy.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A hwy a syrthiant trwy fin y cleddyf, a chaethgludir hwynt i bob cenedl: a Jerusalem a fydd yn cael ei mathru gan Genedloedd, hyd oni chyflawner amseroedd y Cenedloedd.