Luke 21:25 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno y byð sygnedd yn yr haul, ac yn y lloer, a’r ser, ac a’r y ðaiar trallot ymhlith y cenetloedd, gyd a chyfing gycor: y mor a’r weilgi a ruant.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A bydd arwyddion yn yr haul a’r lleuad a’r ser, ac ar y ddaear ing cenhedloedd mewn dyryswch gan ruad y môr a’r môr-gesyg,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A bydd arwyddion yn yr haul a’r lloer a’r sêr, ac ar y ddaear ing cenhedloedd mewn cyfyng-gyngor gan ruad môr a thonnau,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A bydd arwyddion yn yr haul, a'r lleuad, a'r sêr; ac ar y ddaear ing cenhedloedd, gan gyfyng gyngor; a'r môr a'r tonnau yn rhuo;
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Bydd pethau rhyfedd yn digwydd yn yr awyr — arwyddion yn yr haul, y lleuad a'r sêr. Ar y ddaear bydd gwledydd mewn cynnwrf a ddim yn gwybod beth i'w wneud am fod y môr yn corddi a thonnau anferth yn codi.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Bydd arwyddion yn yr haul a'r lloer a'r sr. Ar y ddaear bydd cenhedloedd mewn cyfyngder yn eu pryder rhag trymru ac ymchwydd y mr.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A bydd arwyddion mewn haul, a lleuad, a sêr; ac ar y ddaear gyfyngder Cenedloedd mewn dyryswch wrth ruad y môr a'i ymchwydd: