Luke 21:28 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ phan ðechreuo y pethae hyn ddy vot, tremiwch i vyny dd, a darchefwch eich pene, can ys‐bot eich prynedgaeth yn dy nessau.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A phan ddechreuo’r pethau hyn ddigwydd, ymsythwch, a chodwch eich pennau, canys nesau y mae eich prynedigaeth.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A phan ddechreuo’r pethau hyn ddyfod, ymsythwch a chodwch eich pennau, am fod eich ymwared yn nesáu.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phan ddechreuo'r pethau hyn ddyfod, edrychwch i fyny, a chodwch eich pennau: canys y mae eich ymwared yn nesáu.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan fydd hyn i gyd yn dechrau digwydd, safwch ar eich traed a daliwch eich pennau'n uchel. Mae rhyddid ar ei ffordd!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pan ddechreua'r pethau hyn ddigwydd, ymunionwch a chodwch eich pennau, oherwydd y mae eich rhyddhad yn agosu."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ond pan ddechreuo y pethau hyn ddyfod, sefwch yn union‐syth, a chodwch eich penau, canys y mae eich gwaredigaeth yn neshâu.