Luke 21:34 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Edrychwch arnoch eich hunain, rac bot vn amser trymhau eich calonhae gā gloðest a’ meddot, a’ gofalon y vuchedd hon, a’ rac dyvot y dydd hwnw ar ych vchaf eb wybot.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ond cymmerwch ofal rhag ysgatfydd y trymhaer eich calonnau chwi gan lythineb a meddwdod a gofalon y bywyd hwn, ac yn ddisymmwth ddyfod arnoch o’r dydd hwnw fel magl,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ymogelwch rhag un amser i’ch calonnau gael eu llethu gan syrffed a meddwdod a gofalon bywyd, ac i’r dydd hwnnw ddyfod arnoch yn ddisymwth
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac edrychwch arnoch eich hunain, rhag i'ch calonnau un amser drymhau trwy lythineb, a meddwdod, a gofalon y bywyd hwn, a dyfod y dydd hwnnw arnoch yn ddisymwth;
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Gwyliwch eich hunain! Peidiwch gwastraffu'ch bywydau yn gwneud dim byd ond joio, meddwi a phoeni am bethau materol, neu bydd y diwrnod hwnnw yn eich dal chi'n annisgwyl —
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Cymerwch ofal, rhag i'ch meddyliau gael eu pylu gan ddiota a meddwi a gofalon bydol, ac i'r dydd hwnnw ddod arnoch yn ddisymwth
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ond ystyriwch arnoch chwi eich hunain, rhag un amser i'ch calonau gael eu gorlwytho âg effeithiau glythineb, a meddwdod, a phryderon bywyd, a'r Dydd hwnw ddyfod arnoch yn ddisymwth, fel magl;