Luke 21:36 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Gwiliwch gan hyny a’ gweddiwch yn ’oystat, ar gahel bot yn deilwng y ddianc rac y pethe hynn oll ar ddyvot i ben, ac ar allu o hanoch sefyll geyr‐bron Map y dyn.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A gwyliwch bob amser, gan ddeisyfu y byddoch abl i ddiangc rhag y pethau hyn oll y sydd ar ddigwydd, ac i sefyll ger bron Mab y Dyn.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Byddwch effro, gan weddïo bob amser am gael nerth i ddianc rhag y pethau hyn oll sydd i ddigwydd, ac i sefyll gerbron Mab y dyn.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Gwyliwch gan hynny a gweddïwch bob amser, ar gael eich cyfrif yn deilwng i ddianc rhag y pethau hyn oll sydd ar ddyfod, ac i sefyll gerbron Mab y dyn.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Cadwch eich llygaid yn agored! Gweddïwch y byddwch chi'n gallu osgoi'r pethau ofnadwy sy'n mynd i ddigwydd, ac y cewch chi sefyll o flaen Mab y Dyn.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Byddwch effro bob amser, gan ddeisyf am nerth i ddianc rhag yr holl bethau hyn sydd ar ddigwydd, ac i sefyll yng ngu373?ydd Mab y Dyn."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Eithr gwyliwch chwi yn mhob tymhôr, gan wneyd deisyfiadau, fel y caffoch nerth i ddianc rhag y pethau hyn oll sydd ar ddyfod, ac i sefyll ger bron Mab y Dyn.