Luke 21:37 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac yn hyd y dydd y dyscei ef y bobyl yn y Templ, a’r nos ydd ai allan, ac yr arosei yn y mynyth a elwir mynydd yr olew‐wydd.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac yr oedd Efe, y dyddiau, yn y deml, yn dysgu; a’r nosau, gan fyned allan y llettyai ar y mynydd a elwir Mynydd yr Olewydd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac yr oedd yn dysgu yn y deml bob dydd, a phob nos âi allan a’i threulio ar y mynydd a elwir Olewydd.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r dydd yr ydoedd efe yn athrawiaethu yn y deml; a'r nos yr oedd efe yn myned ac yn aros yn y mynydd a elwid yr Olewydd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd Iesu yn dysgu pobl yn y deml bob dydd, ac yna gyda'r hwyr yn mynd yn ôl i dreulio'r nos ar ochr Mynydd yr Olewydd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yn ystod y dydd byddai'n dysgu yn y deml, ond byddai'n mynd allan ac yn treulio'r nos ar y mynydd a elwir Olewydd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac yr oedd efe ar hyd y dyddiau hyny yn dysgu yn y Deml: ond y nosweithiau yr oedd efe yn myned allan i dreulio y nos yn y Mynydd a elwir Olew‐wydd.