Luke 21:38 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’r oll popul a ddeuent yn vorae ataw, y’w glywet yn y Tem p l.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A’r holl bobl a fore-gyrchent Atto yn y deml, i’w glywed Ef.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A’r holl bobl a gyrchai ato yn fore i’w glywed yn y deml.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r holl bobl a foregyrchent ato ef yn y deml, i'w glywed ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yn gynnar bob bore roedd tyrfa o bobl yn casglu at ei gilydd i wrando arno yn y deml.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yn y bore bach deuai'r holl bobl ato yn y deml i wrando arno.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A'r holl bobl a gyrchent gyd â'r wawr ato yn y Deml, i wrando arno.