Luke 21:4 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Canys wy oll o ei gormodd der y bwriesont ymplith y’r offrymae Duw: a’ hon oi phrinder a vwriawð y mywn yr oll vywyt oeð y‐ddei.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
canys yr holl rai hyn, o’r hyn oedd dros ben ganddynt y bwriasant at y rhoddion, ond hyhi, o’i phrinder, yr holl fywyd a oedd ganddi a fwriodd hi.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
canys y rhain oll, o’u gweddill y cyfranasant at y rhoddion; ond hon o’i phrinder a gyfrannodd y cwbl a oedd ganddi at ei byw.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys y rhai hyn oll o'r hyn oedd weddill ganddynt a fwriasant at offrymau Duw: eithr hon o'i phrinder a fwriodd i mewn yr holl fywyd a oedd ganddi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Newid mân oedd pawb arall yn ei roi, gan fod ganddyn nhw hen ddigon dros ben; ond yn ei thlodi rhoddodd y wraig yna y cwbl oedd ganddi i fyw arno.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Oherwydd cyfrannodd y rhain i gyd o'r mwy na digon sydd ganddynt, ond rhoddodd hon o'i phrinder y cwbl oedd ganddi i fyw arno."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Canys y rhai hyn oll o'r gorlawnder sydd ganddynt a fwriasant at y rhoddion; eithr hon o'i phrinder a fwriodd yr holl fodd i fyw oedd ganddi.