Luke 21:6 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ai ’r pethae hyn ydd ych yn ei tremio? e ddaw ’r dyddiae yn yr ei ny ed evv ir maen ar vaen, a’r ny’s goyscerir.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
dywedodd, Y pethau hyn, y rhai yr edrychwch arnynt, daw dyddiau yn y rhai ni adewir maen ar faen yma, yr hwn ni ddattodir.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
fe ddywedodd, “Am y pethau hyn yr ydych yn edrych arnynt, fe ddaw dyddiau pryd na adewir maen ar faen heb ei ddymchwel.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Y pethau hyn yr ydych yn edrych arnynt, daw'r dyddiau yn y rhai ni adewir maen ar faen, a'r nis datodir.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Mae'r amser yn dod pan fydd y cwbl welwch chi yma yn cael ei chwalu, a fydd dim un garreg wedi ei gadael yn ei lle.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Am y pethau hyn yr ydych yn syllu arnynt, fe ddaw dyddiau pryd ni adewir maen ar faen; ni bydd yr un heb ei fwrw i lawr."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
O berthynas i'r pethau hyn yr ydych yn edrych arnynt, y dyddiau a ddeuant yn y rhai ni adewir yma faen ar faen, a'r nis datodir yn hollol.