Luke 21:7 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno y gofynnesont y‐ddaw, gan ðywedyt, Athro, and pa bryd y byð pethae y hyn? a ’pha ’r argoel vydd ar ddawot hyn i ben?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A gofynasant Iddo, gan ddywedyd, Athraw, pa bryd, ynte, y bydd y pethau hyn? a pha beth yw’r arwydd pan fo’r pethau hyn ar ddigwydd?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Gofynasant iddo, “Athro, pa bryd, tybed, y bydd y pethau hyn, a beth fydd yr arwydd pan fo’r pethau hyn ar ddyfod?”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A hwy a ofynasant iddo, gan ddywedyd, Athro, pa bryd gan hynny y bydd y pethau hyn? a pha arwydd fydd pan fo'r pethau hyn ar ddyfod?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A dyma nhw'n gofyn iddo, “Pryd mae hyn i gyd yn mynd i ddigwydd, Athro? Fydd unrhyw rybudd cyn i'r pethau yma ddigwydd?”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gofynasant iddo, "Athro, pa bryd y bydd hyn? Beth fydd yr arwydd pan fydd hyn ar ddigwydd?"
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A hwy, a ofynasant iddo, gan ddywedyd, Athraw, Pa bryd gan hyny y bydd y pethau hyn? A pha arwydd fydd pan fyddo y pethau hyn ar ddyfod?