Luke 21:8 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac ef a ddyuot, Mogelwch rac cael eich twyllaw: can ys daw llawer yn vy Enw i, gan ddywedyt, Mi yw Christ, ac mae’r amser yn dy nesau: ac am hyny nac ewch ar y h ol hwy.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac Efe a ddywedodd, Edrychwch na’ch arweinier ar gyfeiliorn; canys llawer a ddeuant yn Fy enw, gan ddywedyd, Myfi wyf y Crist, ac, Yr amser a nesaodd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Dywedodd yntau, “Edrychwch na’ch twyller chwi; canys llawer a ddaw ar bwys fy enw i, a dywedyd ‘Myfi yw’ â ‘Nesaodd yr amser’; nac ewch ar eu hôl.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a ddywedodd, Edrychwch na thwyller chwi: canys llawer a ddeuant yn fy enw i, gan ddywedyd, Myfi yw Crist; a'r amser a nesaodd: nac ewch gan hynny ar eu hôl hwynt.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Atebodd Iesu: “Gwyliwch fod neb yn eich twyllo chi. Bydd llawer yn dod yn hawlio fy awdurdod i, a dweud, ‘Fi ydy'r Meseia’ a ‘Mae'r diwedd wedi dod’. Peidiwch eu dilyn nhw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Meddai yntau, "Gwyliwch na chewch eich twyllo. Oherwydd fe ddaw llawer yn fy enw i gan ddweud, 'Myfi yw', ac, 'Y mae'r amser wedi dod yn agos'. Peidiwch mynd i'w canlyn.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac efe a ddywedodd, Edrychwch na'ch cam‐arweinier chwi: canys llawer a ddeuant yn fy enw i, gan ddywedyd, Myfi yw, ac, Y mae yr Adeg wedi neshâu: nac ewch ar eu hol hwynt.