Luke 21:9 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ phan glywoch son am ryveloedd a’ thervyscoedd, nac ofner chwi: can ys dir yw ir pethae hyn ddy vot yn gyntaf, eithyr na d oes tervyn yn y man.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Nac ewch ar eu hol. A phan glywoch am ryfeloedd a therfysgoedd, na chymmerwch fraw, canys rhaid sydd i’r pethau hyn ddigwydd yn gyntaf; eithr nid yn uniawn y mae’r diwedd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A phan glywoch am ryfeloedd a therfysgoedd, na ddychrynwch; canys rhaid i’r pethau hyn ddyfod yn gyntaf, eithr nid ar unwaith y daw’r diwedd.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phan glywoch sôn am ryfeloedd a therfysgoedd, na chymerwch fraw: canys rhaid i'r pethau hyn fod yn gyntaf: ond ni ddaw y diwedd yn y man.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan fyddwch yn clywed am ryfeloedd a chwyldroadau, peidiwch dychryn. Mae'r pethau yma'n siŵr o ddigwydd gyntaf, ond fydd diwedd y byd ddim yn digwydd yn syth wedyn.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A phan glywch am ryfeloedd a gwrthryfeloedd, peidiwch chymryd eich dychrynu. Rhaid i hyn ddigwydd yn gyntaf, ond nid yw'r diwedd i fod ar unwaith."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Eithr pan glywoch am ryfeloedd a therfysgoedd, na frawycher chwi; canys rhaid i'r pethau hyn fod yn gyntaf: ond nid yw y diwedd yn y man.