Luke 22:11 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
a’ dywedwch wrth wr y tuy, Yr Athro a ddywait wrthyt, Pl’e mae’r ystauell lle bwytavwyf vy-Pasc y gyd a’m discipulon?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
a dywedwch wrth ŵr y tŷ, Dywedyd wrthyt y mae’r Athraw, Pa le y mae’r westfa, lle y bwyttawyf y Pasg ynghyda’m disgyblion?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A chwi ddywedwch wrth ŵr y tŷ, ‘Y mae’r Athro yn dywedyd wrthyt, P’le mae’r llety lle caf fwyta’r pasg gyda’m disgyblion?’
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A dywedwch wrth ŵr y tŷ, Y mae'r Athro yn dywedyd wrthyt, Pa le y mae'r llety, lle y gallwyf fwyta'r pasg gyda'm disgyblion?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
i mewn i'r tŷ y bydd yn mynd iddo, a gofyn i'r perchennog, ‘Mae'r athro eisiau gwybod ble mae'r ystafell westai, iddo ddathlu'r Pasg gyda'i ddisgyblion.’
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
a dywedwch wrth u373?r y tu375?, 'Y mae'r Athro yn gofyn i ti, "Ble mae f'ystafell, lle yr wyf i fwyta gwledd y Pasg gyda'm disgyblion?"'
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A chwi a ddywedwch wrth feistr y tŷ, Y mae yr Athraw yn dywedyd wrthyt, Pa le y mae y west‐ystafell, lle y bwytawyf y Pasc gyd â'm Dysgyblion?