Luke 22:16 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can ys dywedaf wrthych, na vwytawyf o hano mwy o hyn allan, yd y ny chyflawner yn‐teyrnas Duw.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
canys dywedaf wrthych na fwyttaf mo hono, hyd oni chyflawner yn nheyrnas Dduw.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Canys yr wyf yn dywedyd i chwi nas bwytâf ef ddim eto hyd onis cyflawner ef yn nheyrnas Dduw.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys yr ydwyf yn dywedyd i chwi, Ni fwytâf fi mwyach ohono, hyd oni chyflawner yn nheyrnas Dduw.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dw i'n dweud wrthoch chi y bydda i ddim yn ei fwyta eto nes i'r cwbl gael ei gyflawni pan ddaw Duw i deyrnasu.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Oherwydd rwy'n dweud wrthych na fwytf hi byth hyd nes y cyflawnir hi yn nheyrnas Dduw."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
canys yr wyf yn dywedyd i chwi, Ni fwytâf fi o hono hyd oni chyflawner ef yn Nheyrnas Dduw.