Luke 22:19 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac ef a gymerth vara, a ’gwedy iddo ddiol vv ch, ef ei tores, ac a roddes yddwynt, can ddywedyt, Hwnn yw vy‐corph: yr hwn a roddir trosoch: gwnewch hyn er cof am danaf.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac wedi cymmeryd bara a rhoddi diolch, torrodd a rhoddes iddynt, gan ddywedyd, Hwn yw Fy nghorph yr hwn sydd eroch chwi yn cael ei roddi; Hyn gwnewch er cof am Danaf;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A chymerth fara, ac wedi diolch torrodd ef a’i roddi iddynt, gan ddywedyd, “Hwn yw fy nghorff [yr ydys yn ei roi drosoch chwi; gwnewch hyn er cof amdanaf i.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac wedi iddo gymryd bara, a rhoi diolch, efe a'i torrodd, ac a'i rhoddes iddynt, gan ddywedyd, Hwn yw fy nghorff yr hwn yr ydys yn ei roddi drosoch: gwnewch hyn er coffa amdanaf.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna cymerodd dorth o fara, ac yna, ar ôl adrodd y weddi o ddiolch, ei thorri a'i rhannu i'w ddisgyblion. “Dyma fy nghorff i, sy'n cael ei roi drosoch chi. Gwnewch hyn i gofio amdana i.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Cymerodd fara, ac wedi diolch fe'i torrodd a'i roi iddynt gan ddweud, "Hwn yw fy nghorff, sy'n cael ei roi er eich mwyn chwi; gwnewch hyn er cof amdanaf."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac efe a gymmerodd fara, ac a ddiolchodd, ac a'i torodd, ac a'i rhoddodd iddynt, gan ddywedyd, Hwn yw fy nghorff yr hwn sydd yn cael ei roddi drosoch: gwnewch hyn er coffa am danaf fi.