Luke 22:2 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’r Archoffeiriait ar Gwyr‐llen oedd yn ceisiaw pa wedd y lleðynt ef: o bleit ydd oedd arnynt ofn y bobl.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
a cheisiai yr archoffeiriaid a’r ysgrifenyddion pa fodd y difethent Ef, canys ofnent y bobl.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A cheisiai’r archoffeiriaid a’r ysgrifenyddion ffordd i’w ladd, canys yr oedd arnynt ofn y bobl.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r archoffeiriaid a'r ysgrifenyddion a geisiasant pa fodd y difethent ef: oblegid yr oedd arnynt ofn y bobl.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd y prif offeiriaid a'r arbenigwyr yn y Gyfraith yn dal i edrych am ffordd i gael gwared â Iesu. Ond roedd arnyn nhw ofn beth fyddai'r bobl yn ei wneud.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr oedd y prif offeiriaid a'r ysgrifenyddion yn ceisio modd i'w ladd, oherwydd yr oedd arnynt ofn y bobl.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac yr oedd yr Arch‐offeiriaid a'r Ysgrifenyddion yn ceisio pa fodd i wneyd ffwrdd ag ef: canys yr oeddynt yn ofni y bobl.