Luke 22:20 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yr vn modd hefyt wedi iddo swpery e gymerth y cwpan, can ddywedyt, Y cwpan hwn yw’r Testament newydd yn vy gwaet, yr hwn a ellyngir y trosoch.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ac y cwppan yr un ffunud, ar ol swpperu, gan ddywedyd, Y cwppan hwn yw’r cyfammod newydd yn Fy ngwaed, yr hwn sydd eroch chwi yn cael ei dywallt allan.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A’r cwpan yr un modd wedi swper, gan ddywedyd, “Y cwpan hwn, y cyfamod newydd ydyw yn fy ngwaed, yr ydys yn ei dywallt drosoch chwi.]
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yr un modd y cwpan hefyd wedi swperu, gan ddywedyd, Y cwpan hwn yw'r testament newydd yn fy ngwaed i, yr hwn yr ydys yn ei dywallt drosoch.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Wedyn ar ôl bwyta swper gafaelodd yn y cwpan eto, a dweud, “Mae'r cwpan yma'n cynrychioli'r ymrwymiad newydd drwy fy ngwaed i, sy'n cael ei dywallt ar eich rhan chi.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr un modd hefyd fe gymerodd y cwpan ar l swper gan ddweud, "Y cwpan hwn yw'r cyfamod newydd yn fy ngwaed i, sy'n cael ei dywallt er eich mwyn chwi.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A'r cwpan yr un modd, wedi swperu, gan ddywedyd, Y Cwpan hwn yw y Cyfamod Newydd yn fy ngwaed, yr hwn sydd yn cael ei dywallt allan drosoch.