Luke 22:23 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno y dechraesont ymofyn yn ei plith ehun, pwy o hanwynt vyddei a wnei hyny. Yr Euāgel ar ddydd S. Bartholomeus.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A hwy a ddechreuasant ymholi â’u gilydd, Pwy ysgatfydd o honynt oedd yr hwn ar fedr gwneud hyn.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A dechreuasant ymholi yn eu plith eu hunain pwy ohonynt tybed oedd yr un a oedd ar fedr gwneuthur hyn.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Hwythau a ddechreuasant ymofyn yn eu plith eu hunain, pwy ohonynt oedd yr hwn a wnâi hynny.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna dechreuodd y disgyblion drafod pwy ohonyn nhw fyddai'n gwneud y fath beth.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A dechreusant ofyn ymhlith ei gilydd prun ohonynt oedd yr un oedd am wneud hynny.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A hwy a ddechreuasant ymddadleu yn eu plith eu hunain, pwy yn wir o honynt oedd ar wneuthur hyn.