Luke 22:24 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac e gyvodes ymryson yn eu plith, pwy o hanaðynt a debygit ei vot yn vwyaf.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A bu ymryson yn eu plith, Pwy o honynt a dybygid ei fod yn fwyaf.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A bu ymryson hefyd yn eu plith pwy ohonynt a gyfrifid ei fod yn fwyaf.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A bu ymryson yn eu plith, pwy ohonynt a dybygid ei fod yn fwyaf.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond yna dyma ddadl yn codi yn eu plith nhw ynglŷn â pha un ohonyn nhw oedd y pwysica.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Cododd cweryl hefyd yn eu plith: prun ohonynt oedd i'w gyfrif y mwyaf?
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A bu ymryson yn eu plith, pwy o honynt a gyfrifid i fod y mwyaf.