Luke 22:25 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac ef a ddyvot wrthynt, Brenhinoedd y Cenedloedd a deyrnasant arnynt, ar ei ai h’arglwyddiaethant a elwir yn Bendevigion da.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac Efe a ddywedodd wrthynt, Brenhinoedd y cenhedloedd a arglwyddiaethant arnynt; a’r rhai sydd mewn awdurdod arnynt, cymmwynaswyr y’u gelwir.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Dywedodd yntau wrthynt, “Y mae brenhinoedd y cenhedloedd yn arglwyddiaethu arnynt, a gelwir y rhai sy’n awdurdodi arnynt yn gymwynaswyr.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a ddywedodd wrthynt, Y mae brenhinoedd y Cenhedloedd yn arglwyddiaethu arnynt; a'r rhai sydd mewn awdurdod arnynt, a elwir yn bendefigion.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly dwedodd Iesu wrthyn nhw, “Mae brenhinoedd y cenhedloedd yn ei lordio hi dros bobl; ac mae pobl fawr eraill sy'n hoffi dangos eu hawdurdod yn cael teitlau fel ‛Cyfaill y bobl‛!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Meddai ef wrthynt, "Y mae brenhinoedd y Cenhedloedd yn arglwyddiaethu arnynt, a'r rhai sydd ag awdurdod drostynt yn cael eu galw yn gymwynaswyr.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac efe a ddywedodd wrthynt, Y mae Breninoedd y Cenedloedd yn arglwyddiaethu arnynt; y mae y rhai sydd mewn awdurdod arnynt yn cael eu galw, Cymwynaswyr.