Luke 22:27 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Canys pa‐vn vwyaf, ai hwn ys a’n eisteð ar‐y‐vort, ai ’r hwn ys y’n gweini? Anyd mvvyaf yr vn a vo yn eistedd‐ar-y‐vort? Ac ydd wyf vi yn eich mysc mal vn yn gweini.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Canys pa un fwyaf, ai’r hwn sy’n lled-orwedd wrth y bwrdd, neu’r hwn sy’n gweini? Onid yr hwn yn ei led-orwedd? Ond Myfi, yn eich mysg yr wyf fel yr hwn sy’n gweini.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Canys pwy sydd fwyaf, yr un sydd wrth y bwrdd ai’r un sy’n gweini? Onid yr un sydd wrth y bwrdd? Ond yr wyf i yn eich mysg chwi fel yr un sy’n gweini.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys pa un fwyaf, ai'r hwn sydd yn eistedd ar y bwrdd, ai'r hwn sydd yn gwasanaethu? onid yr hwn sydd yn eistedd ar y bwrdd? eithr yr ydwyf fi yn eich mysg fel un yn gwasanaethu.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pwy ydy'r pwysica fel arfer? Ai'r sawl sy'n eistedd wrth y bwrdd neu'r sawl sy'n gwasanaethu? Y sawl sy'n eistedd wrth y bwrdd wrth gwrs! Ond dw i yma fel un sy'n gwasanaethu.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pwy sydd fwyaf, yr un sy'n eistedd wrth y bwrdd neu'r un sy'n gweini? Onid yr un sy'n eistedd? Ond yr wyf fi yn eich plith fel un sy'n gweini.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Canys pwy sydd fwyaf, ai yr hwn sydd yn eistedd i fwyta, neu yr hwn sydd yn gweini? Onid yr hwn sydd yn eistedd i fwyta? Eithr yr wyf fi yn eich canol chwi fel yr hwn sydd yn gweini.