Luke 22:32 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
An’d mi a weddiais trosot, na dðefficiai dy ffydd. Can hyny pan ith ymchweler ir iavvn, cadarnha dy vroder.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ond Myfi a ddeisyfiais drosot na ddiffygiai dy ffydd; a thydi, wedi dy droi ysgatfydd, cadarnha dy frodyr.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
ond gweddïais i drosot ti na fethai dy ffydd di. A thithau, wedi iti droi, cynnal dy frodyr.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eithr mi a weddïais drosot, na ddiffygiai dy ffydd di: tithau pan y'th droer, cadarnha dy frodyr.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond dw i wedi gweddïo drosot ti, Simon, y byddi di ddim yn colli dy ffydd. Felly pan fyddi di wedi troi'n ôl dw i eisiau i ti annog a chryfhau'r lleill.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
ond yr wyf fi wedi deisyf drosot ti na fydd dy ffydd yn pallu. A thithau, pan fyddi wedi dychwelyd ataf, cadarnha dy frodyr."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
ond mi a wneuthum ddeisyfiad drosot ti, na ddiffygiai dy ffydd di; a thydi pan y gwnei droi drachefn, cadarnhâ dy Frodyr.