Luke 22:34 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Eithyr ef a ddyvot, Ys dywedaf wrthyt, Petr, ny chan y ceiliawc heddyw, cyn y ti wady deirgwaith vy adnabot.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac Efe a ddywedodd, Dywedaf wrthyt, Petr, ni chân heddyw geiliog nes tair gwaith wadu o honot nad adweini Fi.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Dywedodd yntau, “Meddaf i ti, Pedr, ni chân y ceiliog heddiw nes i ti wadu deirgwaith dy fod yn f’adnabod.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yntau a ddywedodd, Yr wyf yn dywedyd i ti, Pedr, Na chân y ceiliog heddiw, nes i ti wadu dair gwaith yr adwaeni fi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Pedr,” meddai'r Arglwydd wrtho, “gwranda'n ofalus ar beth dw i'n ei ddweud. Cyn i'r ceiliog ganu bore fory byddi di wedi gwadu dair gwaith dy fod di hyd yn oed yn fy nabod i.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Rwy'n dweud wrthyt, Pedr," atebodd ef, "ni chn y ceiliog heddiw cyn y byddi wedi gwadu deirgwaith dy fod yn fy adnabod i."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac efe a ddywedodd, Yr wyf yn dywedyd i ti, Petr, Ni chân y ceiliog heddyw, hyd nes i ti wadu dair gwaith yr adweini fi.